Transcript Cefndir
Trafferth mewn Tafarn Dafydd ap Gwilym Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/ Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: - Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn - Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn (I gyd yn gywir a heb gymorth) Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau – Arholiad ysgrifenedig, 1.5 awr Culhwch ac Olwen Branwen ferch Llŷr Yr Hengerdd Y Cywyddau •Trafferth mewn Tafarn – Dafydd ap Gwilym •Mis Mai a Mis Tachwedd – Dafydd ap Gwilym •Yr Wylan – Dafydd ap Gwilym •Marwnad Siôn y Glyn – Lewis Glyn Cothi Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau – Arholiad ysgrifenedig, 1.5 awr Cefndir y gerdd a’r bardd Arddull y gerdd traethawd traethawd ¾ awr Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: - Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn - Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn (I gyd yn gywir a heb gymorth) Cynnwys Trafferth mewn Tafarn Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/ ‘Deuthum i ddinas dethol ...’ NIWBWRCH ‘cymryd, balch o febyd fûm, llety, urddedig ddigawn, cyffredin, a gwin a gawn’ Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/ “Canfod rhiain addfeindeg Yn y tŷ, f'un enaid teg. Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain, Fy mryd ar wyn fy myd main” Llun: http://www.flickr.com/photos/drmy stro/412785532/ Llun: http://www.flickr.com/photos/helmutoelkers/1778572565/ “Prynu rhost, nid er bostiaw, A gwin drud, mi a gwen draw.” “Ceisiais yn hyfedr fedru Ar wely'r ferch, alar fu.” ‘Briwais, ni neidiais yn iach, Y grimog, a gwae'r omach, Wrth ystlys, ar waith ostler, Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.’ ‘Trewais, ..., Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,’ “nid oedd gampau da” ‘Dihengais i, da yng saint, I Dduw'r archaf faddeuaint.’ Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: - Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn - Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn (I gyd yn gywir a heb gymorth) Cefndir Trafferth mewn Tafarn Dafydd ap Gwilym Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/ Cefndir Dafydd ap Gwilym Barddoni rhwng 1340-1370 Bardd natur a serch Uchelwr Cymeriad lliwgar Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr Prif noddwr – Ifor Hael o Went Teulu dylanwadol yn y Deheubarth. 32 copi mewn llawysgrifau e.e. Caerdydd 7 Cywydd tro trwstan Lleoliad – Rhosyr yn Niwbwrch, Ynys Môn Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus Merch di-enw Morfudd? Morfudd = •Un o brif gariadon Dafydd • Gwraig briod • Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth • Dod o deulu da • Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi • 80 o gerddi iddi Y System Nawdd Tasg: Mewn grŵp o ddau, parwch y cardiau sydd ag ysgrifen tywyll arnynt â’r cardiau eraill. Yna, trefnwch y cardiau hyn yn ôl trefn amser. Beirdd y Tywysogion Bardd yn canu i un person mewn un lleoliad. 1282 Diwedd cyfnod y tywysogion a diwedd y system nawdd bresennol. Beirdd yr Uchelwyr Bardd yn canu i nifer o bobl wahanol ac yn crwydo o le i le yng Nghymru. Y dosbarth newydd yma o noddwyr yn dechrau barddoni eu hunain hefyd. Y System Nawdd Beirdd y Tywysogion 2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd 1282 – Cwymp y Tywysogion Diwedd nawdd Dosbarth newydd o dirfeddianwyr Beirdd yr Uchelwyr Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac yn dechrau barddoni eu hunain Clera Datblygiad y Cywydd Traethodl Cywydd Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell. Beth ydy moeswers? Moeswers = stori bach a ddefnyddir i ddangos peryglon arferion drwg. Un o’r prif ddylanwadau ar y cywydd hwn. Llun: http://www.flickr.com/photos/stmarysmemphis/3383062009/ Pregethwyr yr Oesoedd Canol yn adrodd moeswers yn eu pregethau. Prif bechod Dafydd oedd balchder a chwant. Nid yw Trafferth mewn Tafarn yn foeswers ddifrifol. Parodi ar y foeswers Ganoloesol ydyw. • 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur. • Beirdd y Tywysogion: - Awdlau serch Hywel ab Owain - Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab Owain . • Beirdd y Glêr = beirdd isradd Cymru. • Canu am serch – thema israddol. • Canu am eni, caru a marw – profiadau sylfaenol pobl. Ym mhle gallai Dafydd fod wedi dod ar draws cerddi Beirdd y Glêr? • Ewythr – Llywelyn ap Gwilym ab Einion. • Cwnstabl Castell Newydd Emlyn. • Llys yn Nyfed – Dafydd wedi aros yno. • Dafydd yn dysgu barddoni yno. • Dod i gysylltiad â Saeson a diwylliant Ffrengig. • Chwedlau Ffrengig. • Ymwneud â throeon trwstan. • Mae rhyw, neu’r awydd amdano, yn ganolog i’r fabliaux. • Hefyd, mae tric cyfrwys yn fodd i gyrraedd y nod fel rheol. • Naratif trydydd person. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y fabliaux a Trafferth mewn Tafarn? • Beirdd crwydrol o Ffrainc. • Canu mewn tafarndai. • Canu cerddi ‘poblogaidd’ yr oes honno. • Gwneud hwyl am ben pethau parchus e.e. parodïo emynau yn eu cerddi. • Cerddi erotig. •Cerdd serch Ffrengig. •Y Trwferiaid yn canu’r alba. •Syniad: Dau gariad yn treulio noson gyda’i gilydd yna’n cael eu gorfodi i wahanu pan ddaw’r wawr. Camp Dafydd ap Gwilym Dafydd ap Gwilym = UNIGRYW!!! Y gallu i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn. Canlyniad = gwaith cwbl newydd a ffres Camp Dafydd ap Gwilym Huw Meirion Edwards: “Pwysicach na phob dylanwad yw dychymyg ac egni creadigol cynhenid Dafydd, a’i galluogodd i drawsnewid yr hyn a glywodd ac a ddarllenodd ym mhair ei weledigaeth ef ei hun.” Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: - Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn - Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn (I gyd yn gywir a heb gymorth) Tasg Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Trafferth mewn Tafarn. Cyflwynwch eich canfyddiadau i weddill y dosbarth. Amser: 10 munud. Tasg Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Trafferth mewn Tafarn. Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: - Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn - Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn (I gyd yn gywir a heb gymorth) Gwaith Cartref: Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Trafferth mewn Tafarn gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith. Erbyn wythnos i heddiw.